Wythnos Elusennau Cymru
15 - 19 Tachwedd 2021
Bydd Wythnos Elusennau Cymru yn cael ei chynnal am y tro cyntaf rhwng 15-19 Tachwedd 2021.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu’r elusennau, y mudiadau gwirfoddol, y grwpiau cymunedol a’r gwirfoddolwyr sy’n cyfoethogi bywydau pob un ohonom ni yma yng Nghymru.



Mae 26.1% o bobl yng Nghymru yn gwneud o leiaf un diwrnod o wirfoddoli’r flwyddyn
Mae 49,044 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru
Caerdydd & Powys
Mae’r rhan fwyaf o’r mudiadau gwirfoddol yng Nghaerdydd (3,860) a Powys (3,696)
Gwynedd sydd â’r lefelau uchaf o wirfoddoli yng Nghymru
65-74
Pobl rhwng 65-74 oed yw’r ddemograffeg sy’n rhoi’r mwyaf o’u hamser – mae 30.1% o’r grŵp hwn yn gwirfoddoli
Mae 26.1% o bobl yng Nghymru yn gwneud o leiaf un diwrnod o wirfoddoli bob blwyddyn
Mudiadau gwirfoddol yng Nghymru
Caerdydd & Powys
Mae’r rhan fwyaf o’r mudiadau gwirfoddol yng Nghaerdydd (3,860) a Powys (3,696)
Gwynedd sydd â’r lefelau uchaf o wirfoddoli yng Nghymru
65-74
Pobl rhwng 65-74 oed yw’r ddemograffeg sy’n rhoi’r mwyaf o’u hamser – mae 30.1% o’r grŵp hwn yn gwirfoddoli
Ynghylch
Bydd Wythnos Elusennau Cymru yn cael ei chynnal rhwng 15-19 Tachwedd 2021. Nod yr wythnos yw dathlu ac amlygu gwaith gwych elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru.
Wedi’i threfnu gan CGGC, caiff Wythnos Elusennau Cymru ei chefnogi gan ITV Cymru Wales.


Cymryd rhan
Nôd Wythnos Elusennau Cymru yw i ddathlu gwaith rhyfeddol elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymuneldol a gwirfoddolwyr ar draws Cymru.
Yn ystod Wythnos Elusenau Cymru gallwch ddangos eich hoffter o elusennau ledled Cymru a’ch cefnogaeth iddynt, drwy:
Rhoi cydnabyddiaeth iddyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol
Soniwch amdanyn nhw ar blatfform cyfryngau cymdeithasol o’ch dewis.
Dywedwch wrthym ni pam rydych chi’n dwli arnynt a chofiwch ddefnyddio’r #WythnosElusennauCymru
Rhoi
Mae’r wythnos hon yn adeg dda i roi rhodd i’ch hoff elusen. Cofiwch, nid yw’n gorfod bod yn rhodd ariannol – gallai fod yn fag o ddillad neu eitemau eraill i’ch siop elusen leol neu gallech hyd yn oed roi ychydig o’ch amser drwy wirfoddoli (gweler isod).
Gallech hefyd godi arian i’ch hoff elusen drwy gymryd rhan yn yr her ‘Cot pwy yw’r siaced hon?’. Am fwy o wybodaeth am yr her, lawrlwythwch ein pecyn ymgyrchu.

Ymrwymo i fod yn wirfoddolwyr
Oes gennych chi ychydig o amser rhydd ar eich dwylo ac yn teimlo y gallech chi ei ddefnyddio i wneud rhywbeth buddiol? Beth am ymrwymo i fod yn wirfoddolwr?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr, lle da i ddechrau yw
www.gwirfoddolicymru.net
Am fwy o wwybodaeth
am sut i gymryd rhan, lawrlwythwch ein pecyn ymgyrchu isod.
Elusennau
Os ydych yn elusen, mudiad gwirfoddol neu’n grwp cymunedol
Anfonwch luniau atom
o’r gwaith gwych rydych chi’n ei wneud i’w arddangos yn oriel wefan Wythnos Elusennau Cymru (gwnewch yn siŵr bod gennych chi ganiatâd pawb dan sylw)
Rhannwch fideo byr
am eich gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol a chofiwch ddefnyddio’r #WythnosElusennauCymru. Rydym wedi creu canllaw syml ar sut i greu eich fideo
Helpwch ni i amlygu
gwaith ein sector drwy ddefnyddio ein pecyn ymgyrchu i’ch helpu chi i deilwra eich cyfathrebiadau eich hun yn ystod yr wythnos
Beth sy’n digwydd
Bob dydd byddwn yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar sut mae elusennau, grwpiau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth bob dydd ledled Cymru.
Cymerwch ran drwy ddweud eich straeon wrthym ar y cyfryngau cymdeithasol:
Dydd Llun - 15 Tachwedd 2021
Dywedwch wrthym am adeg lle gwnaeth elusen neu wirfoddolwr eich helpu chi neu hyd yn oed newid eich bywyd. Rhannwch eich stori drwy ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #diolchgarwch
Dydd Mawrth – 16 Tachwedd 2021
Dywedwch wrthym am y bobl rydych chi wedi cwrdd â nhw wrth weithio neu wirfoddoli gydag elusennau neu drwy eu cefnogi. Rhannwch eich stori gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #cysylltiadau a chofiwch dagio’r bobl y gwnaethoch chi gwrdd â nhw!
Dydd Mercher – 17 Tachwedd 2021
Dywedwch wrthym am foment falch rydych chi wedi’i chael wrth wirfoddoli neu weithio gydag elusen. Rhannwch eich stori gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #YGorau
Dydd Iau – 18 Tachwedd 2021
Gwnewch i ni chwerthin neu wenu drwy ddweud wrthym am rywbeth doniol neu dwymgalon a ddigwyddodd i chi pan oeddech chi’n ymwneud ag elusen neu fudiad gwirfoddol. Rhannwch eich stori gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #CodiGwên
Dydd Gwener – 19 Tachwedd 2021
Dywedwch wrthym ni yn eich geiriau eich hun pam mae elusennau yn haeddu eich cymorth drwy gydol y flwyddyn. Rhannwch eich barn gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #NidWythnosYnUnig
Adnoddau
I’ch helpu i gymryd rhan mewn dathlu Wythnos Elusennau Cymru, rydym wedi llunio deunyddiau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’r wythnos.
Lawrlwythwch ein pecyn ymgyrchu sy’n dweud wrthych beth yw’r holl ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru 2021
Lawrlwythwch y graffeg hyn a theilwra at eich defnydd eich hun ar y cyfryngau cymdeithasol
Lawrlwythwch ein canllaw ar greu fideo ar gyfer cyfryngau cymdeithasol neu gwyliwch ein fideo syml
Trefnwyd Gan:
